Overview
Lecturer in Politics – Law Building, Cardiff
School of Law and Politics
The School of Law and Politics is seeking to appoint an outstanding candidate to join our internationally renowned Department of Politics and International Relations.
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale, unless in exceptional circumstances.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at: Responsible research assessment – Research – Cardiff University
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn awyddus i benodi ymgeisydd neilltuol i ymuno ag adran Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol – adran o fri byd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r Adran Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhan ddeinamig o sefydliad rhyngddisgyblaethol Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sydd wedi tyfu’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar. Rydym yn gymuned sy’n amrywiol ei safbwyntiau deallusol, gyda chryfderau hirsefydlog a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes damcaniaeth wleidyddol, gwleidyddiaeth Cymru a datganoli; hanes gwleidyddiaeth Prydain; a gwleidyddiaeth Ewrop a’r DU a pholisi cyhoeddus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r adran wedi buddsoddi’n helaeth i ymgryfhau ymhellach ym maes cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang. Bellach, mae ganddi broffil ymchwil cryf mewn meysydd sy’n cynnwys hanes y rhyfel oer; gwleidyddiaeth niwclear; theori ryngwladol feirniadol; trefedigaethedd ac ôl-drefedigaethedd; astudiaethau rhywedd; gwleidyddiaeth amgylcheddol; astudiaethau milwrol ac astudiaethau cudd-wybodaeth; a chyfraith ryngwladol. Mae ymchwil ac addysgu ar draws yr adran yn manteisio ar amrywiaeth o ddulliau gweithredu deallusol a methodolegol. Ymhellach, mae bod yn rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig cyfleoedd i arloesi ar draws ffiniau disgyblaethol ym meysydd addysgu ac ymchwil.
Mae is-ddisgyblaethau ar draws Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cymryd rhan weithredol mewn pum cytsêr ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: Llywodraethu Byd-eang: Cymru, Ewrop a thu hwnt; Gwrthdaro, Diogelwch a Chymdeithas; y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Technoleg; Cyfiawnder Cymdeithasol a Dyfodol Amgen; a Chenedlaethau’r Dyfodol a Chynaliadwyedd. Mae’r meysydd hyn yn datblygu amgylchedd ymchwil ddeinamig trwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys datblygu grwpiau darllen a chyhoeddiadau ar y cyd, mentora, sesiynau cymorth gyda gwaith ar y gweill, datblygu ceisiadau am arian ar y cyd, a gweithdai. Disgwylir i ymgeiswyr gyfrannu o’u harbenigedd yn y meysydd eang hyn gan gryfhau proffil yr Adran ymhellach.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr y mae eu harbenigedd yn estyn ac yn ategu’r arbenigedd presennol yn yr adran yn y maes hwn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus broffil ymchwil cryf sy’n gymesur â’u cyfnod gyrfa. Disgwylir iddynt gyfrannu at ymchwil a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag ymchwil yn yr Ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus allu amlwg i ddarparu addysg o safon uchel a disgwylir iddynt gyfrannu at raglen addysgu’r adran ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae profiad blaenorol o addysgu dulliau meintiol ar lefel israddedig a/neu ôl-raddedig yn cael ei werthfawrogi’n arbennig, yn ogystal â phrofiad o weithio gyda dyluniadau arbrofol a/neu ddata arolwg hydredol ar raddfa fawr.
Gwefan: https://www.cardiff.ac.uk/cy/law-politics
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu’r Brifysgol, fel y rhai sy’n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu’r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy’n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na’r cyfnodolyn y mae’r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.













